Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y cyfarfod: |
|
|
Amser y cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (242)v4 |
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud) Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
|
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3 Datganiad gan y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus: Cyflwyno'r Bil Llywodraeth Leol (Cymru) (60 munud) |
4 Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol: Gwella argaeledd rhandiroedd a gerddi cymunedol (30 munud) |
5 Datganiad gan y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi: Adnewyddu'r Agenda Cynhwysiant Ariannol (30 munud) |
6 Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo’r Bil Addysg Uwch (Cymru) (15 munud) NDM5677 Huw Lewis (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Addysg Uwch (Cymru).
Dogfen Ategol Bil Addysg Uwch (Cymru) - fel y'i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 Memorandwm Esboniadol Diwygiedig
|
7 Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru 2013-14 (60 munud) NDM5672 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2013/14, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2015.
Dogfen Ategol Adroddiad blynyddol y Comisiynydd Pobl Hŷn ar gyfer 2013/14
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r cynnydd yng nghyfran gwaith achos y Comisiynydd Pobl Hŷn sy'n ymwneud â gofal iechyd.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod yr Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad yn nodi bod tri awdurdod lleol yn methu â chyrraedd eu hamserlenni statudol ar gyfer darparu grantiau cyfleusterau i'r anabl.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu gwaith y Comisiynydd Pobl Hŷn mewn perthynas â datblygu'r Datganiad Hawliau Pobl Hŷn yng Nghymru.
|
8 Dadl: Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2014 (60 munud) NDM5674 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adroddiad Gweinidogion Cymru ar Gydraddoldeb 2014.
Cewch weld copi o'r adroddiad drwy ddilyn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/topics/people-and-communities/equality-diversity/?skip=1&lang=cy
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt 1 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried materion trawsryweddol ehangach o fewn dyletswydd cydraddoldeb y sector cyhoeddus.
Gwelliant 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno mesurau pellach i fynd i'r afael â bwlio homoffobig mewn ysgolion.
Gwelliant 3 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen am weithio mewn partneriaeth yn well er mwyn mynd i'r afael â'r cynnydd yn y tensiynau rhwng cymunedau a gwella cydlyniant yn dilyn yr ymosodiadau brawychwyr ym Mharis.
Gwelliant 4 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ffigurau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ym mis Tachwedd 2014 yn dangos bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau ar ei lefel isaf erioed, ond yn cydnabod bod angen gwneud mwy.
Gwelliant 5 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod dioddefwyr troseddau casineb yn gallu cael gafael ar wasanaethau cymorth cynhwysfawr yn rhwydd.
Gwelliant 6 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu mai ychydig o gynnydd sydd wedi'i wneud o ran cynyddu'r amrywiaeth o gyrff yng Nghymru sy'n gwneud penderfynaidau.
Gwelliant 7 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod rhaid i amcanion cydraddoldeb hefyd gadarnhau'r hawl i gael gwasanaethau cyhoeddus drwy gyfrwng ieithoedd swyddogol Cymru.
Gwelliant 8 - Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu na ellir sicrhau cydraddoldeb yng Nghymru oni bai bod cyfoeth wedi'i rannu'n deg ledled y DU. |
9 Cyfnod Pleidleisio |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 28 Ionawr 2015